Pam rydyn ni angen eich Help chi


alt


Mae Gofal Hosbis George Thomas yn elusen gofrestredig ac mae angen i’r elusen godi, trwy godi arian gwirfoddol, y rhan helaeth o’r arian mae’n ei gymryd i gynnal ein gwasanaethau gofal a chynnal sy’n cael eu darparu am ddim i gleifion a’u teuluoedd. 

I barhau i ddarparu’r gofal, y gynhaliaeth a’r cyfleusterau hanfodol rydyn ni’n eu cynnig ac i gwrdd â’r galw cynyddol am ein gwasanaeth rydyn ni angen eich help chi. Gallwch gofio’ch ceraint mewn modd arbennig iawn ac hefyd ein helpu ni i helpu eraill trwy wneud cyfraniad i’n gwaith. Gallwch wneud gwir wahaniaeth i ansawdd bywyd eraill ar adeg anodd yn eu bywyd trwy helpu Gofal Hosbis George Thomas:

Mae pob rhodd o’r fath yn mynd at gynnal ein gofal a’n cymorth i rai sy’n wynebu Canser a chlefydau eraill sy’n peryglu bywyd oddi fewn i’n Cymuned. Os gallwch chi helpu ewch i’r adran berthnasol, ei hargraffu a’i chwblhau a’u dychwelyd at:

Margaret Pritchard
Prif Weithredwr
Gofal Hosbis George Thomas
Tŷ George Thomas
Tir Ysbyty’r Eglwys Newydd
Heol y Parc
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7BQ
back to top