Amdanon Ni
Gall wynebu canser ac unrhyw salwch arall sy’n peryglu bywyd fod yn anodd iawn i ddioddefwyr a’u teuluoedd gyda nifer yn dymuno aros yn eu cartrefi eu hunain ond yn ofni’r pwysau ychwanegol.
Mae Gofal Hosbis George Thomas yn cynnig cyngor nyrsio ac ymarferol, cefnogaeth emosiynol ac ysbrydol, cyfarpar meddygol, therapïau, triniaethau a gweithgareddau gofal dyddiol a chyngor mewn profedigaeth, a hyn i gyd yn y cartref.
Rydyn ni’n cefnogi hyd at 1000 o gleifion a’u teuluoedd bob blwyddyn gyda’n tîm amlddisgyblaeth o nyrsys arbenigol, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr cymdeithasol gyda’r help yn cael ei ddarparu am ddim.
back to top